69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70 Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a'i cymerth o gorlannau y defaid:
71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
72 Yntau a'u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a'u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.