2 Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear.
3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a'u claddai.
4 Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i'r rhai sydd o'n hamgylch.
5 Pa hyd, Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân?
6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni'th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.
7 Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd.
8 Na chofia yr anwireddau gynt i'n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y'n gwnaethpwyd.