1 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.
2 Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a'r nabl.
3 Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.
4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.
5 Efe a'i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn.
6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â'r crochanau.
7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.