12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.
13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a'u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.
16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o'r graig y'th ddiwallaswn.