6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â'r crochanau.
7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.
8 Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf;
9 Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.
10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a'i llanwaf.
11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni'm mynnai.
12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.