8 Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf;
9 Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.
10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a'i llanwaf.
11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni'm mynnai.
12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.
13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.