1 Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.
2 Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.
3 Bernwch y tlawd a'r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidus.
4 Gwaredwch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o'u lle.
6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.