5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o'u lle.
6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o'r tywysogion y syrthiwch.
8 Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.