11 Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a'u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
12 Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i'w meddiannu.
13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;
15 Felly erlid di hwynt â'th dymestl, a dychryna hwynt â'th gorwynt.
16 Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd.
17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: