4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
5 Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i'th erbyn;
6 Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid; y Moabiaid, a'r Hagariaid;
7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.
8 Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
9 Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
10 Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i'r ddaear.