9 Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
10 Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i'r ddaear.
11 Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a'u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
12 Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i'w meddiannu.
13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;
15 Felly erlid di hwynt â'th dymestl, a dychryna hwynt â'th gorwynt.