2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela.
3 Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.
4 Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.
5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
6 Oni throi di a'n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.
8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i'w bobl, ac i'w saint: ond na throant at ynfydrwydd.