5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
6 Oni throi di a'n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.
8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i'w bobl, ac i'w saint: ond na throant at ynfydrwydd.
9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.
11 Gwirionedd a dardda o'r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o'r nefoedd.