12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.
14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy.
16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.
17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.
18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.