17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.
18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.
19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o'r bobl.
20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â'm holew sanctaidd:
21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a'm braich a'i nertha ef.
22 Ni orthryma y gelyn ef; a'r mab anwir nis cystuddia ef.
23 Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen; a'i gaseion a drawaf.