21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a'm braich a'i nertha ef.
22 Ni orthryma y gelyn ef; a'r mab anwir nis cystuddia ef.
23 Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen; a'i gaseion a drawaf.
24 Fy ngwirionedd hefyd a'm trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.
25 A gosodaf ei law yn y môr, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.
26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth.
27 Minnau a'i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.