26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth.
27 Minnau a'i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.
28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a'm cyfamod fydd sicr iddo.
29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a'i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.
30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau;
31 Os fy neddfau a halogant, a'm gorchmynion ni chadwant:
32 Yna mi a ymwelaf â'u camwedd â gwialen, ac â'u hanwiredd â ffrewyllau.