31 Os fy neddfau a halogant, a'm gorchmynion ni chadwant:
32 Yna mi a ymwelaf â'u camwedd â gwialen, ac â'u hanwiredd â ffrewyllau.
33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o'm gwirionedd.
34 Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.
35 Tyngais unwaith i'm sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd.
36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a'i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.
37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.