35 Tyngais unwaith i'm sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd.
36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a'i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.
37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.
38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.
39 Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.
40 Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
41 Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i'w gymdogion.