40 Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
41 Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i'w gymdogion.
42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.
43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
44 Peraist i'w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr.
45 Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.
46 Pa hyd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?