43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
44 Peraist i'w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr.
45 Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.
46 Pa hyd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?
47 Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?
48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.
49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?