49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?
50 Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;
51 A'r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O Arglwydd; â'r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.
52 Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.