7 Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i'w arswydo yn ei holl amgylchoedd.
8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a'th wirionedd o'th amgylch?
9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a'u gostegi.
10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.
11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a'r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a'i gyflawnder.
12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.