2 Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf.
3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.
4 A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.
5 Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:
6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.
7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti.
8 Yn unig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.