6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.
7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti.
8 Yn unig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.
9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;
10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11 Canys efe a orchymyn i'w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
12 Ar eu dwylo y'th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.