1 Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf:
2 A mynegi y bore am dy drugaredd, a'th wirionedd y nosweithiau;
3 Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.
4 Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â'th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.
5 Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.
6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.
7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i'w dinistrio byth bythoedd.