11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i'm herbyn.
12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.
13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw.
14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant:
15 I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.