6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.
7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i'w dinistrio byth bythoedd.
8 Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd.
9 Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.
10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y'm heneinir.
11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i'm herbyn.
12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.