1 O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria.
2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i'r beilchion.
3 Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?
4 Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?
5 Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a'th etifeddiaeth a gystuddiant.
6 Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r amddifad a ddieneidiant.