6 Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r amddifad a ddieneidiant.
7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn.
8 Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
9 Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.
12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith: