1 Deuwch, canwn i'r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau.
3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
5 Y môr sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sychdir.
6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr.
7 Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,