1 Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i'r Arglwydd, yr holl ddaear.
2 Cenwch i'r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
4 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.