2 Cenwch i'r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
4 Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
6 Gogoniant a harddwch sydd o'i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd, rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i'w gynteddoedd.