6 Gogoniant a harddwch sydd o'i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd, rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i'w gynteddoedd.
9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a'r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.
11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a'i gyflawnder.
12 Gorfoledded y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant.