1 Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a'i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.
2 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
3 Cofiodd ei drugaredd a'i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.
4 Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
5 Cenwch i'r Arglwydd gyda'r delyn; gyda'r delyn, a llef salm.