1-4 Pam, O Dduw, y sefi drawMewn cyfyngderPan fo’r drwg yn peri brawYn ei falchder?Barus ac ymffrostgar ywYn ei chwantau.Gwawdia’r Arglwydd, caeodd DduwO’i gynlluniau.
5-8 Mae dy farnau di’r tu hwntI’w amgyffred.Dywed yn ei feddwl brwnt,“Ni chaf niwed.”Mae’n llawn melltith, trais a gwawdA drygioni.Llecha’n gudd i ladd y tlawdMewn pentrefi.
9-12 Gwylia, megis llew o’i ffau,Am y truan,Ac fe’i dena i’r dychrynfâuSy’n ei guddfan.Dywed, “Trodd yr Arglwydd draw,Ac ni falia.”Cyfod, Arglwydd, cod dy law.Nac anghofia.
13-15 Pam y mae’r rhai drwg, O Dduw,Yn dy wawdio,Ac yn dweud o hyd, “Nid ywEf yn malio”?Ond rwyt ti yn sylwi ar boenYr anffodus.Cod a dryllia nerth a hoenY drygionus.
16-18 Duw sydd frenin; blin fydd ffawdY cenhedloedd.Arglwydd, clywaist gwyn y tlawdYn eu hingoedd.Gwnei gyfiawnder iddynt hwy,A’u hamddiffyn,Ac ni chaiff meidrolion mwyBeri dychryn.