1-5 Chwi dduwiau, a ydych mewn difrifYn barnu yn gyfiawn o hyd?O na! Fe ddyfeisiwch gelwyddau,A gwasgar eich trais dros y byd.Anufudd o’r groth yw’r drygionus,Gwenwynllyd fel sarff yw y rhain,Fel gwiber a gaodd ei chlustiauRhag clywed y swynwr a’i sain.
6-9 O Dduw, dryllia’u dannedd; diwreiddiaGilddannedd y llewod, ac aedY cyfan fel dŵr, a diflannu,A chrino fel gwellt o dan draed.Fe fyddant fel marw-anedigNa wêl olau dydd, ac fe fynEin Duw eu diwreiddio yn ebrwydd,A’u sgubo hwy ymaith fel chwyn.
10-11 Bryd hynny, bydd lawen y cyfiawnOherwydd y dial a wnaed.Yng ngwaed y drygionus, o’r diwedd,Fe’i gwelir yn golchi ei draed.A dywed pawb oll, “Oes, yn bendant,Mae gwobr i’r cyfiawn o hyd;Ac oes, y mae Duw sydd yn barnuYn gyfiawn y ddaear i gyd.”