1-8 O Dduw, paid â bod yn ddistaw;Gwêl y rhai sy’n dy gasáuYn cynllwynio yn erbyn IsraelA chynghreirio i’w llesgáu:Edom, Ismael, Moab, Hagar,Gebal, Ammon, yn un llu,Amalec, Philistia a Thyrus,Ac Asyria fawr o’u tu.
9-13 Fel i Sisera, neu JabinAr lan Cison dan ei glwy,Neu i Fidian gynt yn Harod,Gwna i’r rhain; gwna’u mawrion hwyMegis Oreb, Seeb, SebaA Salmuna. Mae pob unYn ymffrostio, “Fe feddiannwnDiroedd Duw i ni ein hun”.
14-18 O fy Nuw, gwna hwy fel manusO flaen gwynt. Ymlidia hwyMegis tân yn llosgi coedwig,A dwg arnynt warth byth mwy.Gwna’u hwynebau’n llawn cywilydd,Fel y ceisiant d’enw drud,Ac y gwelant mai ti, Arglwydd,Yw’r Goruchaf drwy’r holl fyd.