1-3 Fe’th glodforaf â’m holl galon;Yng ngŵydd duwiau molaf diAm dy gariad a’th ffyddlondeb.Tua’r deml ymgrymaf fi.Cans dyrchefaist d’air a’th enwUwchlaw popeth sydd o werth.Fe’m hatebaist i pan elwais,A chynyddaist ynof nerth.
4-6 Boed i holl frenhinoedd daearGanu am dy ffyrdd yn awr,Canys clywsant eiriau d’enau,A’th ogoniant di sydd fawr.Er dy fod yn uchel, Arglwydd,Fe gymeri sylw o lefY rhai isel, a darostwngY rhai balch o uchder nef.
7-8 Er im fynd trwy gyfyngderau,Â’th ddeheulaw gref, fy Nuw,Cosbaist ti fy holl elynion,A rhoist imi flas ar fyw.Byddi, Arglwydd, yn gweithreduAr fy rhan, waeth beth a ddaw.Mae dy gariad yn dragywydd;Paid â gadael gwaith dy law.