Salmau 105 SCN

SALM 105

Y Duw sy’n cadw’i addewid

1-6 Diolchwch oll i’r ArglwyddAr weddi ac ar gân.Hysbyswch ei weithredoedd,A moli’i enw glân.Addolwch ef, a chofiwchHoll ryfeddodau’i ras,Chwi blant ei ffefryn, Jacob,Ac Abraham, ei was.

7-11 Ef yw ein Duw, yr Arglwydd.Mae’n barnu’r byd heb gam.Mae’n cofio ei gyfamod,Ei lw i Abraham,I Isaac ac i Jacob,A’i eiriau sy’n ddi-lyth:“I chwi y rhof wlad CanaanYn etifeddiaeth byth”.

12-15 Pan nad oedd cenedl IsraelOnd bechan, ac ar daithO wlad i wlad, ni chafoddNeb ei darostwng chwaith.Ceryddodd ef frenhinoedd,A’u siarsio, “Peidiwch chwi chyffwrdd â’m heneiniogNac â’m proffwydi i”.

16-19 Cyn anfon newyn, trefnuI’w bwydo hwy a wnaeth,Pan yrrodd eu brawd, Joseff,O’u blaen i’r Aifft yn gaeth.Fe roed ei draed mewn cyffionA’i wddf mewn cadwyn gref,Nes profodd gair yr ArglwyddMai gwir ei eiriau ef.

20-23 Yr Arglwydd a anfonoddY brenin i’w ryddhauA’i wneud yn llywodraethwrY deyrnas, i’w chryfhau,A dysgu i’w henuriaidDdoethineb yn eu gwaith.Ac yna daeth plant IsraelI grwydro yn nhir yr Aifft.

24-27 Fe’u gwnaeth yr Arglwydd ynoYn bobl ffrwythlon iawn.Gwnaeth galon eu gelynionO ddichell cas yn llawn.Daeth Moses, a’i frawd, Aaron,Drwy’i air, i sythu’r cam,A thrwyddynt gwnaeth arwyddionA gwyrthiau yn nhir Ham.

28-32 Er anfon drosti gaddug,Terfysgai’r Aifft yn fwy;Fe droes yn waed ei dyfroedd,A lladd eu pysgod hwy,A llenwi’r tir â llyffaintA gwybed yn un haid;Trwy’r wlad fe lawiai cenllysgA fflachiai mellt di-baid.

33-36 Fe drawodd ffrwyth eu gwinwyddA’r holl ffigyswydd ir.Llefarodd, a daeth cwmwlLocustiaid dros y tirI lwyr ddinistrio’r glaswelltA difa’r cnydau ŷd;A’u plant cyntafanedigA drawodd yn ei lid.

37-40 Ac yna dug hwy allan,Ag aur ac arian drud,A’r Eifftiaid, yn eu harswyd,Yn llawenhau i gyd.Rhoes gwmwl i’w gorchuddio,Goleuo’r nos â thân;Anfonodd iddynt soflieirA bara’r nefoedd lân.

41-45 Fe holltodd graig nes tarddoddY dŵr drwy’r anial cras,Cans cofiodd ei addewidI Abraham, ei was.Rhoes diroedd y cenhedloeddI’w bobl yn lle i fyw,I gadw ei gyfreithiauA’i ddeddfau. Molwch Dduw.