1 Dywedais, “Gwyliaf rhagPechu âm tafod rhwydd.Rhof ar fy ngenau ffrwyn pan fo’rDrygionus yn fy ngŵydd.
2-3 Bûm ddistaw, ond i beth?Gwaethygu a wnaeth fy nghri;Llosgodd fy holl deimladau’n dânO’m mewn, ac meddwn i:
4 Dysg imi, Arglwydd Dduw,Fy niwedd; dangos diMor brin fy nyddiau yn y byd,Mor feidrol ydwyf fi.
5 Gwnaethost fy nyddiau i gydFel dyrnfedd, ac nid ywFy oes yn ddim i ti, cans chwaO wynt yw pob un byw:
6 Pob un yn mynd a dodFel cysgod, a di-fuddYw’r cyfoeth a bentyrra; niŴyr pwy a’i caiff ryw ddydd.
7-8a Yn awr, O Arglwydd, amBeth y disgwyliaf fi?Gwared fi o’m troseddau oll.Mae ’ngobaith ynot ti.
8b-10 Na wna fi’n wawd i ffŵl.Bûm fud, a’m ceg a daw.Ti a wnaeth hyn, a darfod rwyfGan drawiad llym dy law.
11-12a Drylli fel gwyfyn bawbPan gosbi’n pechod ni.Yn wir, mae pawb fel chwa o wynt.O Arglwydd, clyw fy nghri.
12b-13 Pererin estron wyf,Fel fy holl dadau i gyd.Tro draw dy lid a’m llawenhauCyn imi fynd o’r byd.”