1-4a Ŵr grymus, paham yr ymffrostiMewn drwg, a defnyddio dy rymYn erbyn y duwiol, a’th dafodFel ellyn, yn finiog a llym?Ti fradwr, fe geri ddrygioniYn fwy na daioni o hyd,A chelwydd yn fwy na gwirionedd,Ac enllib yw d’eiriau i gyd.
4b-7 Am fod dy holl iaith yn dwyllodrus,Dy dynnu i lawr a wna Duw,Dy gipio o’th gartref cyffyrddus,A’th rwygo o dir y rhai byw.A’r cyfiawn a wêl ac a ofna,Gan chwerthin, a dweud, “Dyma’r dynNa roddodd ei ffydd yn yr Arglwydd,Ond yn ei drysorau ei hun”.
8-9 Ond fi, byddaf fel olewyddenYn iraidd yng ngardd tŷ fy Nuw;Ac yn ei ffyddlondeb y rhoddafFy hyder tra byddaf i byw.Diolchaf am byth iti, Arglwydd,Am bopeth a wnaethost i mi.Cyhoeddaf dy enw – da ydyw –Ymysg y rhai ffyddlon i ti.