1 Saif ein Duw yng nghanolY cynulliad dwyfol;Barna ymhlith y duwiau.Gwrandewch ar ei eiriau.
2-3a “Pa hyd y camfarnwch?Pa hyd y dangoswchFfafr at y drygionus?Trowch at y truenus.
3b-4 Rhoddwch eich dyfarniadO blaid yr amddifad,A gwaredu’r bregusO law’r rhai drygionus.
5 Ond am na ddeallwch,Cerddwch mewn tywyllwch,Ac am hyn, sylfeini’rDdaear a ysgydwir.
6-7 Duwiau ydych; etoByddwch oll yn syrthioMegis tywysogionMarw fel meidrolion.”
8 Barna di yn ebrwyddYr holl ddaear, Arglwydd,Canys ti sy’n didolYr holl fyd a’i bobol.