1-4 Molwch, dduwiau, yn ddi-dawEnw’r Arglwydd.Plygwch iddo ef pan ddawMewn sancteiddrwydd.Mae ei lais uwch cenllif grefYn taranu.Duw’r gogoniant ydyw efSy’n llefaru.
5-6 Mawr a nerthol lef yw hon:Dryllia’r cedrwydd.Dryllio cedrwydd LebanonY mae’r Arglwydd.Gwna i fynydd LebanonAc un SirionNeidio a llamu ger ei fronFel dau eidion.
7-9 Fflachia’i lais fel mellt ar daith,Ac mae’n periI anialwch Cades faithGrynu ac ofni.Mae’r ewigod cyn eu prydOll yn llydnu.Yn ei deml mae’r bobl i gydYn mawrygu.
10-11 Eistedd y mae’r Arglwydd DduwUwch y dyfroeddAr ei orsedd. Brenin ywYn oes oesoedd.Rhodded ef i’w bobl byth mwyNerth a mawredd!A bendithied hefyd hwy thangnefedd!