1-2 Arglwydd, buost noddfa inniDrwy y cenedlaethau i gyd.Ers cyn geni y mynyddoeddA chyn esgor ar y byd,Ti sydd Dduw o dragwyddoldebHyd at dragwyddoldeb mud.
3-6 Fe wnei’n llwch yr holl ddynolryw.Mil blynyddoedd, Arglwydd mawr,Sydd i ti fel doe a ddarfu,Ac fel cysgu tan y wawr.Sgubi hwy i ffwrdd fel breuddwyd,Neu fel crinwellt oddi ar lawr.
7-9 Fe ddarfyddwn gan dy ddicter,A’n brawychu gan dy lid.Dodaist yng ngoleuni d’wynebEin pechodau cudd i gyd.Derfydd fel ochenaid egwanEin blynyddoedd yn y byd.
10-12 Hyd ein hoes yw saith deng mlynedd –Wyth deg, hwyrach – ond mae’u hydYn llawn blinder, ac ânt heibio.Pwy, fel ni, a ŵyr dy lid?Dysg ni, felly, i gyfri’n dyddiau,Inni fod yn ddoeth ein bryd.
13-15 Am ba hyd? O Arglwydd, dychwelAt dy bobl, a thrugarhau,A’n digoni ni â’th gariadNes cawn eto lawenhau.Rho in flwyddyn o lawenyddAm bob blwyddyn o’n tristáu.
16-17 Boed yn amlwg iawn i’th weisionDy weithredoedd mawr a’th fri.Arglwydd Dduw, disgynned arnomDy raslonrwydd hyfryd di.Llwydda waith ein dwylo inni,Llwydda waith ein dwylo ni.