1-2 O Dduw, ti yw fy Nuw; amdanat ti,Fel sychdir cras am ddŵr, sychedaf fi,Dihoenaf am gael gweld d’ogoniant mawr,A welais yn y cysegr lawer awr.
3-5 Gwell yw na bywyd dy ffyddlondeb di.Am hynny, fe’th foliannaf. Codaf fiFy nwylo byth mewn gweddi i’th enw pêr.Caf fy nigoni ar fraster ac ar fêr.
6-8 Pan, ar fy ngwely y nos, dy gofio a wnaf –Fel y cysgodais dan d’adenydd braf –Fy enaid fydd yn glynu wrthyt ti;Bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal i.
9-11 Ond am y rhai a wnâi im drais a chlwy,Ysglyfaeth i lwynogod fyddant hwy;A bydd y brenin byth yn llawenhauYn Nuw, cans tewir pob celwyddgi gau.