1-2 Gwaeddais ar yr Arglwydd tyner,“Tyrd i’m gwared o’m cyfyngder,Rhag y genau drwg, twyllodrus,A rhag tafod sy’n enllibus”.
3-4 Beth yn fwy a roddaf iti,Dafod drwg sy’n fy nifenwi?Rwyt fel saethau llym rhyfelwr,Marwor eirias yw dy ddwndwr.
5 Gwae fy mod i yn ymdeithioYn nhir Mesach, ac yn trigoYmysg pebyll alltud Cedar,Ymhlith pobl estron, anwar.
6-7 Yn rhy hir bûm fyw mewn dryswchGyda’r rhai na charant heddwch.Yr wyf fi am heddwch tawel,Ond maent hwythau’n mynnu rhyfel.