1 Pwy gaiff ganiatâd i arosYn dy babell di, fy Nuw?Yn dy fynydd sanctaidd, Arglwydd,Pwy gaiff ganiatâd i fyw?
2-3a Un sy’n byw yn gywir, onest,Gwneud cyfiawnder ar ei daith,Nad oes malais ar ei dafod,Na wna ddrwg i’w gyfaill chwaith.
3b-4a Un nad ydyw’n goddef enllibAm gymydog, ac sy’n bywI ddirmygu yr ysgymun,Parchu’r rhai sy’n ofni Duw.
4b-5 Un sy’n cadw’r llw a dyngodd,Llog ar arian byth ni fyn,Nad yw’n twyllo y diniwed,Ni symudir a wna hyn.