1-2 Bendigedig fyddoDuw, fy nghraig a’m caer;Ef sy’n dysgu ’nwyloI ryfela’n daer.Ffrind, gwaredydd, lloches,Tarian gadarn yw,A darostwng pobloeddDanaf a wna Duw.
3-4 Beth yw dyn, O Arglwydd,Iti ei gofio ef?Beth yw pobloedd daearI gael nawdd y nef?Tebyg iawn i anadlYdyw einioes dyn;Cysgod yw ei ddyddiau’nDarfod bob yr un.
5-8 Agor di y nefoedd,Arglwydd; tyrd i lawr;Saetha fellt nes tanioY mynyddoedd mawr.O’th uchelder achubFi o’r dyfroedd dyfnAc o law estroniaidA’u celwyddau llyfn.
9-11 Arglwydd, gyda’r dectantCanaf iti gân.Fe achubaist DdafyddRhag y cleddyf tân.Achub finnau, Arglwydd,Gwared fi yn awrO law yr estroniaidA’u celwyddau mawr.
12-13 Bydded gryf ein meibionFel planhigion gardd;Fel pileri palasBoed ein merched hardd.Boed ein hysguboriauOll yn llawn o ŷd;Bydded defaid filoeddYn ein caeau i gyd.
14-15 Boed ein gwartheg cyfloOll yn drymion iawn.Na foed gwaedd o ddychrynAr ein strydoedd llawn.Gwyn eu byd y boblSydd fel hyn byth mwy –Y bobl y mae’r ArglwyddYn Dduw iddynt hwy.