1-3 O Arglwydd, na cheryddaFi yn dy ddicter mawr.Y mae dy saethau’n suddoI mewn i mi yn awr.Y mae dy law’n drwm arnaf,Ac nid oes rhan o’m cnawdYn gyfan gan dy ddicter,Ac afiach f’esgyrn tlawd.
4-7 Fy mhechod a’m camweddauSydd faich rhy drwm i mi.Mae ’mriwiau cas yn crawniGan fy ffolineb i.Fe’m plygwyd a’m darostwng,Galaraf drwy y dydd,Fy llwynau’n llosg gan dwymyn,A’m cnawd yn afiach, brudd.
8-10 Mae ’nghalon i yn griddfan.Parlyswyd, llethwyd fi.O Arglwydd, mae ’nyheadYn amlwg iawn i ti.Mae ’nghalon yn tabyrddu,Fy nerth yn pallu i gyd,A thywyll yw fy llygaid,Heb olau yn y byd.
11-12 Mae ’nheulu a’m cymdogionA’m ffrindiau’n cadw draw.Mae’r rhai sydd am fy einioesYn gosod maglau braw,A’r rhai sydd am fy nryguYn sôn am ddinistr fydd,Ac yn parhau i fyfyrioDichellion drwy y dydd.
13-15 Ond rwyf fi fel un byddarHeb fod yn clywed dim,Fel mudan heb leferydd,Ac nid oes dadl im.Amdanat ti, O Arglwydd,Yr hir ddisgwyliais i.O Arglwydd, pwy a’m hetyb?Does neb, fy Nuw, ond ti.
16-18 Oherwydd fe ddywedais,“Llawenydd byth na foedI’r rheini sy’n ymffrostioO weled llithro o’m troed”.Yn wir, rwyf ar fin syrthio,Mae ’mhoen o’m blaen bob awr.Cyffesaf a phryderafAm fy mhechodau mawr.
19-22 Cryf ydyw fy ngelynionSy’n fy nghasáu ar gamAc yn fy ngwrthwynebuAm fy mod i’n ddi-nam.O paid â’m gadael, Arglwydd,Na chilia oddi wrthyf fi,Ond brysia i’m cynorthwyo,Fy iachawdwriaeth i.